Môn SAR Logo

Môn-SAR

Chwilio ac Achub Môn
Rhodd gyda JustGiving
Mon-SAR logo HD

Môn-SAR

Chwilio ac Achub Môn
Rhodd gyda JustGiving

Am Môn-SAR

Ar gip...

  • Yn weithredol ers 2018
  • 26 o aelodau tîm gweithredol
  • Fflyd o 3 cherbyd
  • Gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
  • Elusen gofrestredig (rhif: 1162558)
The team - long image

Môn-SAR yw tîm chwilio ac achub Ynys Môn, sydd yma i gefnogi ein cymuned leol ac ymwelwyr â'r ynys.

Rydym yn dîm aelod gweithredol o Lowland Rescue a Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru.

Cyn ffurfio Môn-SAR, timau Achub Mynydd Eryri oedd yn gyfrifol am weithrediadau ar Ynys Môn. Roedd y timau hyn yn wynebu galw cynyddol, a arweiniodd at ffurfio Môn-SAR, sydd bellach yn gweithredu ar draws ardaloedd mewndirol Ynys Môn a Gogledd Gwynedd, hyd at 600m. Daeth Môn-SAR yn dîm weithredol yn 2018.

Caiff Môn-SAR eu tasgio gan Heddlu Gogledd Cymru i gynorthwyo gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys chwiliadau am bobl goll risg-uchel, achub cleifion i'r ambiwlans, a mynediad i dirwedd gymhleth. Rydym yn cynnal ein gweithrediadau ein hunain, ac yn ategu asiantaethau Chwilio ac Achub eraill gerllaw, fel Gwylwyr y Glannau, timau achub mynydd cyfagos, a chŵn chwilio SARDA Cymru.

Gwybodaeth Leol

Mae ein gwirfoddolwyr yn byw ac yn gweithio ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd, sy'n golygu ein bod yn adnabod yr ynys a'i thirwedd arw yn hynod dda. Boed yn chwilio am bobl goll, neu'n lleoli ymwelwyr sydd wedi'u hanafu, mae ein profiad byw o'r ardal yn cefnogi cynllunio a chynnal ein gweithrediadau yn ofalus.

Yn ogystal â chynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru gyda chwiliadau am bobl goll, rydym hefyd yn cynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gyda gwacau ar stretsier dros dir cymhleth, lle mae angen cymorth ar y criwiau. Yn ein rôl fel ymatebwyr cyntaf, rydym yn mynd i alwadau at bobl sydd wedi'u hanafu i asesu eu hanafiadau a'u hebrwng i ddiogelwch. Rydym yn hyfforddi'n wythnosol i addasu i natur amrywiol ein galwadau, gan anelu bob amser i wella.

Yn weithredol ers 2018

Ein prif rôl yw cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru i chwilio am bobl agored i niwed sydd ar goll. Mae ein gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant manwl mewn technegau chwilio, nodweddion pobl goll, a rolau yn ystod gweithrediad chwilio.

Y tu hwnt i hynny, mae gan ein tîm allu achub ar dir serth ac achub ar y dŵr, sy'n ehangu ein gwasanaeth. Anogir ein gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn y Cynllun Gwobr Llywio Cenedlaethol (CGLlC), hyfforddi gyda hofrenyddion Gwylwyr y Glannau, a digwyddiadau hyfforddi ar y cyd â thimau cyfagos.

Wrth i ymwybyddiaeth o'n gwasanaeth ehangu, rydym yn disgwyl yn eiddgar am nifer gynyddol o alwadau. Gyda nifer iach o aelodau gweithredol, gallwn ddanfon timau'n gyflym a chyflawni ein hargaeledd 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.