Gweithredol
Wedi'u hyfforddi ac yn barod i ymateb - 24/7, 365
Angen cymorth ar frys?
Ffoniwch 999 > gofynnwch am yr heddlu > goffynwch am MônSAR
Cefnogedig
Mae ein Tîm Chwilio ac Achub yn cael ei gryfhau gan y gefnogaeth y tu ôl i'r llenni, yn amrywio o waith cynnal a chadw cerbydau. rheoli offer, hyfforddiant - ac ymhellach!
Dan Arweiniad y Gymuned
Rydym yn dibynnu'n llwyr ar gyllid y cyhoedd i barhau â'n gweithrediadau.
Os gallwch ein cefnogi drwy godi arian ar ein cyfer, byddai'n wych clywed gennych.
Yn gweithredu ar draws Môn a Gogledd Gwynedd
Mae ein tîm yn ymateb 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym yn cefnogi’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans gyda digwyddiadau tir isel, tir serth, llifogydd ac achosion trefol.
Rydym yn darparu sgiliau chwilio arbenigol, gallu gofal claf, offer achub, a chludiant oddi ar y ffordd.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:
- Ymateb achub cyflym
- Cynllunio chwilio, echdynnu claf, a chymorth llesiant
- Achub technegol ar dir serth a mynediad i dir cymhleth
- Cefnogaeth gwydnwch cymunedol yn ystod tywydd difrifol
Eisiau cymryd rhan?
Mae Môn‑SAR wastad yn croesawu unigolion sy’n awyddus i gefnogi eu tîm chwilio ac achub lleol.
Rydym yn recriwtio cefnogwyr a chodi arian drwy gydol y flwyddyn. Os hoffech ein helpu i godi arian hanfodol neu gefnogi ein gwaith y tu ôl i’r llenni, byddai’n braf iawn clywed gennych!
Mae recriwtio gweithredol yn digwydd ddwywaith y flwyddyn, ac gallwch gofrestru eich diddordeb unrhyw bryd.
Os ydych yn awyddus i gymryd rhan, cysylltwch â’r tîm.
Cefnogi Môn‑SAR
Os hoffech wneud rhodd, ewch i’n tudalen JustGiving. Neu ewch i’n tudalen ‘helpwch ni’ i ddarganfod mwy!
Tecstiwch MONSAR 5 i 70085 i roi rhodd o £5 + cost anfon neges arferol. Neu, gellwch roi unrhyw gyfraniad o swm cyfan hyd at £20 (MONSAR 1 - MONSAR 20).


