Rydym yn Recriwtio | Diolch i chi am eich diddordeb i ymuno â Chwilio Ac Achub Môn.
Cyn gwneud cais, cymerwch yr amser i ddarllen yr wybodaeth a ddarperir am y disgwyliadau a’r ymrwymiad sy’n gysylltiedig â ymuno a’n tîm.
Amdanom ni
Mae MônSAR yn dîm Chwilio ac Achub gwirfoddol sy’n gweithredu ar draws Môn a Gogledd Cymru. Rydym yn dîm achub ar yr iseldir, ac yn aelod balch o Cymdeithas Achub Mynyddoedd Gogledd Cymru (CAMGC).
Mae ein gwirfoddolwyr yn darparu ystod eang o alluoedd arbenigol ac yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau brys a sefydliadau achub eraill i helpu i ddod o hyd i bobl mewn angen, eu cyrraedd a’u cynorthwyo.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chyfoeth o asiantaethau a sefydliadau partner, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, timau achub mynydd, achub ogofâu, awdurdodau lleol, a chriwiau hofrennydd achub.
Mae gwaith tîm effeithiol, cyfathrebu a rhyngweithrededd felly’n hanfodol i bopeth a wnawn.
Mae ein galluoedd gweithredol yn cynnwys:
Chwilio - Ymateb i ddigwyddiadau sy’n cynnwys pobl ar goll ac unigolion bregus, a chynnal chwiliadau strwythuredig mewn amrywiaeth o amgylcheddau.
Achub - Darparu ymateb galluog i ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys mewn lleoliadau anodd ac anghysbell.
Achub rhaff - Gweithredu ar uchder ac mewn tir serth, heriol neu’n anodd ei gyrraedd, gan ddefnyddio offer rhaff arbenigol.
Achub dŵr - Cefnogi digwyddiadau sy’n cynnwys dŵr mewndirol a darparu personel hyfforddedig ac offer ar gyfer chwiliadau ac achub sy’n gysylltiedig â dŵr.
Ymateb 4x4 - Darparu gallu gyrru oddi ar y ffordd a chynnal cefnogaeth logistaidd, gan gynnwys cludo personél ac offer arbenigol i leoliadau na ellir eu cyrraedd gan gerbydau safonol.
Hyfforddiant a Chyflawniad
Mae ymuno â MônSAR yn ymrwymiad sylweddol.
Mae ein hyfforddiant craidd tîm yn cael ei gynnal bob nos Fercher, yn ogystal ag un diwrnod llawn o hyfforddiant yn ystod penwythnos olaf pob mis.
Yn ogystal â’r sesiynau trefnedig rheolaidd hyn, disgwylir i aelodau ymgymryd ag hyfforddiant ychwanegol, cynnal sgiliau, a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) drwy gydol y flwyddyn.
Yn ystod eich 6 mis cychwynnol gyda’r tîm, disgwylir presenoldeb o leiaf 70%. Mae’r gofyniad hwn yn sicrhau bod aelodau newydd yn cael digon o brofiad o’r rhaglen hyfforddi, yn datblygu’r cymwysderau angenrheidiol ac yn gallu symud ymlaen yn ddiogel tuag at gymhwyster gweithredol.
Nid yw bodloni’r gofyniad presenoldeb ar ei ben ei hun yn gwarantu cymhwyster. Rhaid i aelodau hefyd ddangos y wybodaeth, y sgiliau ymarferol, y ffitrwydd, y gwaith tîm a’r gymhwysedd gweithredol gofynnol ar draws y meusydd hyfforddiant perthnasol.
Ffitrwydd a Gofynion Corfforol
Gall gweithrediadau MônSAR fod yn gorfforol heriol ac mae’n rhaid i ymgeiswyr allu ymgymryd â gweithgareddau blinderus mewn amgylcheddau anodd.
Fel rhan o’r broses ymgeisio a dethol, bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau asesiad ffitrwydd. Dylai ymgeiswyr fod yn gorfforol heini ac yn gallu gweithio am gyfnodau estynedig yn yr awyr agored, yn aml mewn tywydd gwael ac ar dir annodd.
Bydd gofyn i aelodau’r tîm:
- Cerdded pellteroedd sylweddol ar dir garw, serth neu anwastad
Cario eu hoffer gweithredol personol am gyfnodau estynedig
Cario a symud offer achub arbenigol trwm fel rhan o’r tîm
Gweithio ar uchder neu mewn tirwedd anodd ar ôl derbyn yr hyfforddiant priodol
Ymgymryd â gweithgaredd corfforol hirfaith yn ystod chwiliadau ac achubiadau
Gweithio’n effeithiol tra’n flinedig, yn oer, yn wlyb, neu dan bwysau gweithredol
Cynorthwyo gyda symud a gofalu am gleifion ac offer
Yn ogystal â gofynion corfforol y rôl, mae gwaith Chwilio ac Achub yn gofyn am wydnwch emosiynol. Gall aelodau gael eu hamlygu i ddigwyddiadau trawmatig, anafiadau, ac, ar adegau, unigolion sydd wedi marw.
Felly, rhaid i ymgeiswyr ddeall nad yw MônSAR yn sefydliad hyfforddi na chymdeithasol yn unig. Pan fyddwn yn cael ein galw allan, disgwylir i ni weithredu’n ddiogel, yn broffesiynol ac yn effeithiol ochr yn ochr â’n partneriaid yn y gwasanaethau brys ac achub.
Pwy ydym ni’n chwilio amdano?
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig, dibynadwy, yn gorfforol alluog, ac yn barod i ddysgu.
Nid oes angen i chi gyrraedd gyda phrofiad blaenorol o Chwilio ac Achub.
Mae ein rhaglen hyfforddi wedi’i chynllunio i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen, cyhyd â’ch bod yn barod i ymrwymo’r amser a’r ymdrech angenrheidiol i ddod yn aelod gweithredol cymwys o’r tîm.
Mae ymuno â MônSAR yn gyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau, gweithio ochr yn ochr â phersonel hynod brofiadol, ac yn y pen draw chwarae rôl uniongyrchol wrth helpu pobl pan fo angen mwyaf arnynt.